Gareth MorrisJONESChwefror 15 2025
Yn dawel yng nghwmni ei deulu, yn ei gartref, Manod, 2Ffordd Llanbeblig, Caernarfon, yn 73 mlwydd oed.
Priod ffyddlon a chariadus Shirley; tad annwyl a charedig Sioned a Ffion a thad yng nghyfraith Mike a Matthew; taid arbennig i Noah, Mia, Casi a Macs. Colled fawr i'w deulu a'i ffrindiau oll.
Gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Bangor, ddydd Gwener, Mawrth 7 am 11 o'r gloch.
Blodau'r teulu yn unig ond os dymunir derbynnir rhoddion er cof yn ddiolchgar tuag at Nyrsys Ardal Caernarfon a Marie Curie.
Ymholiadau E W Pritchard, 62 Stryd Fawr, Llanberis 01286 870202.
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Gareth